top of page
Outdroor_Hydro_Water-Spirit_4 copy.jpg

Hydropsyche
(Ysbryd y Dwr) 

Ymleda holltau dyfnion

sych fel gwely afon

heb law. 

Dadleua’r cymylau duon

sy’n bygwth chwalu,

a chryfha’r gwyntoedd. 

Fe’m codwyd o lanast y byd

ysgafn fel deilen grynsych 

yn ysu i deimlo’n fyw,

i godi o’r poen. 

Islaw

mae’r tir yn griddfan,

yn ymbil

am ryddhad 

glaw.

SAIN GLAW TRWM AR DDAEAR SYCH 

Nid lloches

rhag y storm

sydd angen arnaf

ond heddwch 
mynwent wlyb, 
llyncu hanes; 
enwau a rhifau,
llechi llaith
sy’n cyflwyno’r meirw:
Mwynwyr na oroesodd 
esgyrn bregus y pyllau,
gwragedd a’u straeon 
na ynganwyd byth,
camsillafwyd eu henwau
gan saeri meini di-addysg. 
Y plant a gollwyd i Deiffoid
sy’n cysgu yn y fan sanctaidd hon. 
Croes cerrig gwynion 
yn cofio pedwar plentyn, 
eu bywydau byr, melys 
yn peri pyllau o ddagrau o hyd. 
Chwech
o gerrig cryfion
sy’n f’amgylchu. 

Rhuthraf 
i lawr 
trwy’r hen goed, 
traed ynghlwm
i’r gwreiddiau blêr,
camau’n llithro,
trwy faw a mwsogl
mewn pyllau brwnt o wacter anobeithiol
yna.. 

Mi glywaf ei llais..

dilynaf,
fy nghlust i’r tir, 
gadawaf lanast y byd allanol tu ôl,
gwleidyddion 
yn cynllunio ysbeiliad, 
clecwyr 
heb le mwyach 
yn nghalon 
y pentre,
mae adar ysglyfaethus sgerbydus
yn sglaffio 
f’anlwc, dwi’n syrthio, 
cydiaf ochr 
y bont sy’n crician, glaw’n 
pistyllu, 
gwyneb perlwen gwan, 
fy nghragen galed yn cracio. 
Anadlaf, yn y gobaith 
y clywaf ei llais 
yn galw 
unwaith yn fwy. 

Sain wedi hidlo, edliw pelledig
yn gaeth yn nail y coed brith, 
tan i’r ceinciau isel, moel, 
bargodog fel danedd hen ddyn, 
adael ei suon dwfn trwyddynt, 
y llais…

toredig,
distaw... 

Hi sydd yna, yn siarad 
neu’n llefaru
a thafodau cyndadau
o’r henfyd 
ynghyd mewn pyllau 
gweigion, lle y bunt yn
pysgota, ymolchi,
bedyddio’r ifainc. 

Ar ben fy hun,
fy nwylo nawr 
mewn gweddi dwys, 
gofynnaf iddi ‘nghario 
at le mwy hael. 
Dagrau’n niwlo ‘ngolwg nawr,
dwi’n ddall 
i fyd yr afon, i’r bywyd
sy’n glynnu tan greigiau,
yn mowldio, gwehyddu cartrefi,
gwyddant eu bwriad, gwyddant 
nad oes ystyr i amser, 
a saif yn stond ar y sylfaeni hyn,
oesau iâ  yn mynd a dod 
heb sôn. 

Fy nghamau nawr yn gryf, rhydiaf
i fewn i’w lif di-ddiwedd. 
tro’r dŵr yn lasddu 

A diflanna golau’r dydd. 

 

Cyn i’m llygaid agor, mi glywaf ei llais, 

yn mwmian, cecian chwerthin. 

Neidia froga i’m talcen ac i lawr eto,

rhynnaf gan yr oerfel, 

ond arhosaf yn fy ngwely o gerrig.  

 

Mae ‘nghorff yn stiff, 

Pob darn yn ddideimlad, 

ond mae bywyd ynnof,

yn fwy nag erioed…

mae awel fwyn

yn fy ymdoddi,

rwy’n fyw.

 

Atseinia guriad ei galwad 

trwy fy mrest wag 

Dere! gad i mi 

olchi dy draed, 

tawelu dy gorff,

golchi dy glwyfau. 

Dere i lawr!

Syrthia o’r 

coed uwchben

a gwledda 

ar fywyd yr afon,

plymia 

i mewn i’m dyfnderoedd. 

 

Ebychiaf, ynganaf gri! 

Sgrafanga ‘nhraed

am rywbeth sefydlog, 

pedalaf dan y dŵr

ac yna, grisiau o gerrig gwastad,

haenau ar gam, 

wedi llyfnhau gydag amser. 

Lympiau’r afon ar fy nghroen, 

dŵr afon yn fy nhrwyn, 

fy ngheg, fy ngwallt afon, 

yn llifo trwy’r ceunant,

a throi yn y tyllau, 

teflid yma a thraw

gan y terfysg: 

Nid oes ofn

yma ym myd yr afon. 

 

Mae’r haul yn codi ac yn machlud 

ac yn codi eto dros yr afon 

lle gwelir y golau disglair

yn dawnsio gyda’r Jac y Do, 

chwilod yn chwileru 

pryfed Cadis yn ymdrechu

i wau 

lloches, 

porthladdoedd ger y glannau 

yn hybu acrobatiaid yr afon - 

Hwylwyr y dŵr, Chwirligwganod. 

Gweision y neidr a chwilod fursen y gors 

sy’n gwibio dros yr wyneb, 

gan fflachio eu hadenydd peunod

yn ngolau’r haul.

 

Gafaelaf ar garreg yn dynn yn fy llaw, 

cerfiaf fy ngwyneb yn arw

ac yn ddwfn, ar graig tolciog;

ei thaflu’n galed i’r rhaeadrau,

a fydd, dros gyfnod, yn llyfnhau  

ochrau pigog fy mhoen. 

 

I ddechrau, ymddengis yr hen fersiwn ohonof

yn sydyn ac annisgwyl,

ar wyneb y dŵr,

fy llygaid mawrion 

yn y cerrig gweigion,

fy llais

yng nghri’r mulfran. 

Dirdynna’r tyndra 

yng ngwaelod fy mol. 

 

Ond os dwi’n eistedd,

heb symud 

llygaid ar gau,

caniatáu llif yr afon  

i mewn i’m pen,

llifolchi meddyliau,

yn dyner, yn araf,

bydd gwres yr 

haul yn ymdoddi 

y tristwch, a’i gyfnewid 

yn liwiau llachar……..

 

Brasluniaf

lleidfaen, siâl, llechi, 

tywodfaen, creigiau gwaddod,

tyllau a phyllau, 

dyfnder miliynau o flynyddoedd. 

Mi ddaliaf y penseli plwm a’r

papur trwchus gwyn yn agos.  

Llenwi’r tudalennau gyda

bywyd afon, gyda deilchion,

pryfed, larfai ac esgyrn

defaid meirw.

Mae’r lliwiau yn fy mhen 

yn crefu am ryddhad. 

 

Mae’r afon yn mwynhau fy sylw 

mae’n dangos ei hun, ei harbennigrwydd

yng ngolau’r haul; yng ngolau’r lleuad.

Mae’n cuddio’i chyfrinachau yn y cysgodion, 

yn fy ngwthio i’w chwilio,

i godi carreg wastad a datgelu 

y trysor dan y dŵr.

Fe’m gwahoddwyd i beintio 

ei dyfroedd byrlymus

trwy’r ceunant,

y brigiau melyngoch,

haenau ceimion, gwyrdd ac aur

dros y cerrig gleision cwympiedig 

hyd at wefus fioled y rhaeadrau:

Mae’n werth ei pheintio wedi’r cyfan - 

yn hŷn na’r pyramidiau,

pererin yn tarddu o 

Bumlumon Fawr,

mae’n ysu i mi  

beintio’r diwrnodau,

o doriad y wawr tan y nos

mae’n fy nhynnu yn ôl

gyda gobaith

i fewn i’r 

bore

newydd. 

 

Gallaf eistedd yn hirach yn awr

fel cerflun yn y graig,

mae fy llygaid yn treiddio’r 

dŵr grisial

ac yn creu palet 

o liw.

Sylla’r cerddwyr 

ar y gwallgofyn, 

allan o le 

yn nhirlun yr afon. 

 

Cloddwraig ydwyf

yn palu aur bywyd afon,

trysor cudd

ar wely’r afon

ar feini mawr a thyllau

yn ffynu, yn ffrwythlon…

anifeiliaid mwsoglaidd,

melyn y gors,

helyg bychain yn gwreiddio.

Gwybedyn Mai di-geg 

oedolyn am un dydd yn unig,

heb y gallu i fwydo, ond yn 

paru i basio’r genynnau ymlaen,

cyn pylu. 

Mae’r pryfyn Cadis yn creu

cist o gerrig bychain

i ddal ac amddiffyn,

gwehyddiad sidanaidd, 

pensaer danddŵr.

Mae’r Hydropsyche yn synnu 

yn creu rhwydi cymhleth

sy’n clustogi ochrau tyllau 

yn rhwygo ac ailgylchu,

yn talu eu dyled ecolegol.

 

Edrych i lygaid 

Gwas y Neidr,

globau amlochrog

sy’n adlewyrchu ei fywyd 

mewn deilchion o olau.

Lleda ei ddirgelwch 

ar draws y byd,

ei gorff enfysliw 

yn galeidoscop 

ar wib

drwy’r awyr a thros y dŵr.

Troi a throilla adenydd dryloywon

i fewn i ddyfnderoedd dealltwriaeth 

ei fodolaeth ei hun.

Mae’n pirwetio’n gain,

gyda gwychder ballerina 

ac yn ymgrymu

i ehangder

y bydysawd.

 

Nid wyf byth yn unig

ar lan yr afon, 

naill ai ar fy mhen fy hun 

neu wrth i eraill rannu’r

awyr, rhannu

pleser ei llonyddwch.

Mi heriais bysgotwr unwaith..

gyda ‘live and let live’.

Fe ranodd ei hanes

a sut y dechreuodd bysgota’n  

bum mlwydd oed,

efo chortyn a brigyn. 

Sut y dychwelodd adre’n falch 

efo’i dlysau o frithyll 

i’w fam, 

i weld ei gwên anaml.

Fe grefftiodd ei dad 

fusnes o blu pysgota, 

a’u gadael nhw i’w fab

mewn bocs ar ôl iddo farw.

Adroddodd y pysgotwr,

ei lais yn llawn dagrau, 

“Mae’n codi’r hwyl,

llif y dwr,

ei sain, 

mae’n cysuro,

fath o rythm yw hi,

sy’n symyd drwy ‘nghorff

ac yn carthu’r rwbel

i’r môr mawr.

Mae’n cysuro, yn wir”, 

rhannodd

gyda mi.

 

Mi rannais i ‘nghyfarfod  

efo eogyn enfawr

wyneb yn wyneb 

dan y dŵr

dyfnaf.

Newydd ddychwelyd o’r Gogledd 

i fwrw grawn, nofio lan yr afon, 

troi, neidio, 

chwilio ei ffordd,

yn ôl i’r lle y gannwyd.

Ar y diwedd, wedi blino gan fywyd,

mi deimlais ei

ysbryd yn gadael 

gyda llif yr afon

diferu’n araf 

yn swynol, dros gerrig.

Fflagiodd cyn llonyddu.

Llifodd fy nagrau

wrth weld yr arbennigrwydd 

yma bylu o’m blaen,

erbyn hyn yn rhan o’r creigiau

yn arnofio’n ddi-fywyd

mewn dyfroedd llonydd.

Dolanog, Dolanog,

Croeso ‘nol.

 

 

Achubais i fywyd unwaith

Rhyw foi ar gaiac drodd ar ei ben 

heb foddi’r diwrnod yna.

Fe gariodd ei gaiac trwy

feysydd cad,

gan ymladd efo ffermwyr,

a boerodd yn diriogaethol, 

nes cyraedd y dyfroedd gwylltion,

er mwyn teimlo eu grym

dros ei gorff 

a drymio’r meddyliau

o’i ben.

Rhwyfodd gyda’r afon

yng nhgrud y glannau,

gan osgoi’r brigau

a’r ysgyrion ar wyneb y dŵr

i wefus y rhaeadr. 

Suodd y gorwel

efo chyffro, ac yn bellach 

i ffwrdd, gwacter - 

wedi tipio ar ongl

nawdeg gradd,

mi adawodd i’w hun fynd

dros dibyn 

y Ddaear

llithro gyda’r  

llen fyrlymol 

o dŵr. 

 

Atseiniodd ei 

floedd

gan fy mloedd innau 

wrth i’r cyw

gwympo o’i nyth

troi a throelli 

mewn trobwll 

o wynder. 

Yr afon fel 

Teigr, yn chwarae 

gyda’i ysglyfaeth. 

 

Yna suddo,

swigod duon

yn torri ar yr wyneb,

ymladd gyda’r bwystfil

ac am funud

diffoddodd swits - 

dim golau, dim sain,

dim ond gwagle du

nes i’w droed gyffwrdd

y graig islaw a

gwthiodd gyda’r cwbwl oedd ganddo

ac fe gododd i’r wyneb, yn dyhefod am wynt.

 

Mi dynnais ef yn ôl i dir sych

ac am sbel eisteddom 

yn crynnu ar y cerrig,

a syllu ar y machlud

trwy’r gors,

yn syfrdanu ar brydferthwch 

yr ail gyfle hwn ar fywyd.

 

Mi glywaf alwad yr afon,

trwy eira ac eirlaw, 

wrth i flagur ymddangos 

a dail lliw gwin

yn dechrau disgyn.

Rhaid dal goleunu’r

dyddie byrion hyn. 

Paentiaf efo’m brws chwim 

a theimlaf nerth

a chyflymder yr afon.

Mae hi’n gyflymach nag

erioed, mwy

beryglus; o dan ei 

harwyneb llyfn,

gall foddi dyn. 

 

Crwydrodd hi ‘ffwrdd,

ar lan yr afon,

daethpwyd â hi yn ol,

ond fe crwydrodd i ffwrdd eto.

Roedd y cerddwyr cŵn yn ei hadnabod,

hen ferch ffeind oedd wastad

yn rhoi ei hamser

dywedant – go grachach

ydoedd, siarad yn fonheddig,

wedi gweld y byd, ffeind. 

Nid ei hudo hi i fewn gwnaeth yr afon - 

llithrodd, traed mwdlyd

ar laswellt hir, gwlyb, wedi ymgolli

mewn meddyliau

am ddyn fu farw degawd yn ol

ond sydd dal yn trigo ynddi hi bob dydd.

Eiliadau yn unig a chymrodd 

iddi lithro, wedi sefyll ar y glannau,

crafangu ar gerrig a thir

a chwalodd o’i chwmpas.

Roedd y dŵr yn fferllyd,

yn bigog trwy’i

chardigan oedd ‘di gwisgo at yr edau, ei

throwsus tenau neilon yn 

rhewi eu hesgyrn meinion, yn fferi 

ei bysedd esgyrnaidd,

oedd yn gafael am rywbeth 

nad oedd yna mwyach.

Llonyddwch llwyr a ddilynodd,

cododd i’r wyneb, syllodd tua’r nef,

mewn swyngwsg dan y lleuad

“Nofiwch”, annogodd yr afon, “nofiwch!”.

Gafaelodd yn yr hen ferch,

yn jyglo’i chorff yn y llif,

eiddil ac ysgafn fel

dail yn syrthio.

Yna, teimlodd ei chorff llipa

yn ei gafael,

ac yn anfodlon…

gadawodd 

fynd.

 

Synfyfyriaf ar bosibiliadau 

bywydau a fu, ar lannau

nad sy’n bodoli mwyach, lle

y golchodd merched eu dillad gwynion,

eu sgwrio ar gerrig gwastad 

a phlantos yn chware’n rhy agos

i’r tafod troellog, llyfllyd

ar ymyl wefus y rhaeadr - 

dim ond disgyn….

 

Yr hen ferswin ohonof yn diferu

‘nôl i’m ‘mhen

yn tynnu ar y tawelwch,

yn f’arwain

o’r lliwiau. 

Ymddengys llygaid diobaith eto,

yn nyfnderoedd y pyllau,

amrannau trwchus fel y gors.

Daw’r tyndra yn ôl

y tro ‘ma yng nghanol

fy

mrest.

 

Mae’r dyfroedd gaeafol wedi chwipio

llaid gwely’r afon,

a ffurfia siapau’r gwanwyn, 

blagurau bywyd newydd,

meddyliau’n llifo,

dyddiau’n ymestyn

ysbrydion yn codi’n ara’ deg.

 

Llithraf, rhwng 

ystlysau y cerrig twymion,

fy nwylo 

ar led, 

y we rhwng 

fy mysedd a’m bawd yn tynhau,

gadael fynd,

torri arwyneb 

y dyfroedd,

ymsuddo,

meddwl, corff, enaid.

 

Llosga haul yr haf

yr hen gloddfa 

sy’n ymrithio o’r 

lloerlun cras.

Nid oes metalau gwenwynig

mwyach,

wedi puro gan hidlenni

compost a chreigiau pererinion, 

i ddatgelu ei dyfroedd crisialaidd.

Unwaith, mi redodd 

yn felyn

gyda chopr, sinc a phlwm

golchodd 

bywydau mwynwyr,

gwnaeth oedi cyn 

eu canol oedau 

neu’n aros yn fythol ifanc,  

yn lludw yn y môr. 

Ystumtuen, 

Penrhiw,

Bwlchgaryn

Llwynteifi,

Cwm Rheidol.

 

Ei llais yn dawelach, crychau,

tapio ar gerrig mân, chwarae,

yr ansawdd yn newid

wedi mwyno gan ddail rhubanaidd,

gwenith a grawn, 

prin ar ran cyfaint ac amlder.

Teimla ymosodiad

gwenwynau newydd yn llygru,

yn rhwystro unwaith eto

blodeuo bywyd yr afon.

 

Mae blwyddyn wedi mynd heibio.

‘Rwyf erbyn hyn yn rhan 

o’r tirlun hwn

nid yn arsylwi  

yn unig mwyach,

ond yn nofio, suddo

ac arnofio 

i’r arwyneb eto,

yn drifftio fel darn  

o

risgl coeden.

 

‘Rwyf wedi dysgu’r

gwahaniaeth rhwng

planhigion sy’n caru’r cysgod

a rheini sy’n hoffi’r haul.

Wedi dod i ddeall pa 

gyflymder y llif

gallent ddioddef 

cyn y caent

eu golchi i ffwrdd.

 

Trochaf fy mysedd

i mewn i’r llif,

teimlaf yr oerfel

yn rhuthro

trwy ‘mraich, ‘nghalon.

Fe’m rhwygwyd i ddarnau

ac fe’m gludwyd yn ôl yn un darn,

darn wrth ddarn, un 

asgwrn ar y tro.

Mae’r lle newydd hwn yn eiddo i mi. 

 

Mae twristiaid 

y trên ager

yn edrych i lawr arnom, 

yng Nghwm Rheidol, 

creaduriaid rhyfedd

yn chwilio am bryfed Cadis,

wedi llwyr ymgolli yn ein gwaith;

cefnau crymion, jîns wedi rolio

i’n pengliniau,

mae’r caws yn chwysu

yn ein brechdannau,

poteli dŵr

yn oeri 

yn y dyfroedd bas.

Mi ddes i â’r 

“bechgyn drwg” heddi’,

y rhai sy’n cael eu gadael

tu ôl

fel arfer. 

Yma, fe’u hamsugnwyd,

fe’u gyrrwyd nhw ymlaen gan yr afon 

yn rhwydd, fel

sbecyn o linad y dŵr

ar ei harwyneb.

 

“Jo - gewn ni aros ‘ma?

gw’on, ie,

bydde’n rili cŵl, 

adeiladu cuddfan,

rafft i wylio’r pysgod.

Beth yw enw rheina,

y pebyll crwn ‘na?

Gallen ni adeiladu tân

tu fewn, 

siarad a pethe,

cysgu, fel, 

pan ni ‘di blino.”

 

Dan sbotolau

yr haul, heb 

eu cuddio

tu ôl i gymylau neu gysgodion  

y gorffennol,

lleisau newydd,

cynnes, yn chwerthin

ac yn galw fy enw,

yn gyffrous i chwilota,

yn hapus i chwarae.

Gadawaf 

yr hen fersiwn ohonof

tu ôl,

y fersiwn sy’n costi 

llawer mwy

nag y gallen i 

fyth fforddio

talu.

 

Rydw i wedi camu i’r dŵr

a gadael bywyd y tir am gyfnod

troi’r cerrig

i ddatgelu bywydoedd eraill…..

ac wrth i’r golau byli

paciaf fy magiau,

mae’r Hydropsyche, Ysbrydion y dŵr,

yn aros, yn gwau eu

rhwydi sidanaidd 

i rythm cyfnewidiol 

cerdd dragwyddol yr afon. 

 

Gan Liz Pearce 

Cyfieithwyd gan Eleanor Johnson

April 2023

Hydropsyche
00:00 / 23:01
bottom of page